Friday 9 August 2013

Cartrefi Cymunedol Gwynedd a'r iaith Gymraeg

Gyda dros 75% o boblogaeth rhai ardaloedd Gwynedd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf mae gwneud pob dim yn gyfan gwbl ddwyieithog yn rhan annatod o'r ffordd rydym yn gweithredu yn CCG (Cartrefi Cymunedol Gwynedd).

Mae ein gwasanaethau i gyd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ac mae gan ein tenantiaid yr hawl i ddisgwyl gwasanaeth o'r un safon yn y ddwy iaith. Rydym yn rhoi'r dewis i'n cwsmeriaid ym mha iaith maen nhw am i ni gyfathrebu efo nhw.

Yn amlwg felly mae rhan helaeth o'n staff yn siarad Cymraeg. Mae ein deunydd cyfathrebu i gyd gan gynnwys ein gwefan yn gwbl ddwyieithog. Yn fwy diweddar mae CCG wedi camu mewn i fyd rhwydweithio cymdeithasol. Roedd trin y ddwy iaith yn hollol gyfartal yn y maes yma hefyd yn gam naturiol. Ac mae CCG yn un o'r prin gymdeithasau tai sy'n trydar ac yn postio ar Facebook yn y ddwy iaith bob tro.

Ond mae rôl a chyfrifoldeb CCG o ran yr iaith yn mynd ymhellach na chynnig gwasanaeth dwyieithog i denantiaid. Dros bum mlynedd rydym yn gwario £136miliwn ar uwchraddio ein cartrefi. Mae hyn yn hwb sylweddol i economi'r sir, i fusnesau ac i swyddi.

Mae bron i hanner cytundebau'r gwaith gwella wedi eu rhoi i gwmnïau bychain lleol ac mae gorfodaeth ar bob un contractwyr sy'n gweithio ar y rhaglen i gyflogi yn lleol a chreu prentisiaethau. Mae hyn mewn cyfnod pan mae swyddi lleol a chyfleoedd i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn brin. Rydym yn falch felly o allu cynnig swyddi o safon a chyfloedd datblygu i unigolion fel bod byw a gweithio yng Ngwynedd drwy gyfwng y Gymraeg yn opsiwn go iawn.

Ffrancon Williams, Prif Weithredwr
Cartrefi Cymunedol Gwynedd



Cartrefi Cymunedol Gwynedd and the Welsh language

With over 75% of the population in many areas of Gwynedd speaking Welsh as a first language, providing a fully bilingual service is an integral part of the way we operate in CCG.

All our services are available in Welsh and English and tenants have a right to expect the same standard of service in both languages. We offer tenants the choice of which language they would like us to communicate with them.

Most of our staff are Welsh speakers. All our communications and promotional materials including our website are bilingual. More recently, CCG has moved into social networking where using both languages came naturally. We are one amongst the few housing associations that always tweet and post on facebook in both languages.

However, CCG’s role and committment to the Welsh language goes further than simply offering our services to tenants bilingually. Over five years we are investing £136 million on improving our homes. This brings with it a substantial boost to the county's economy, businesses and jobs.

Nearly half of the improvement contracts have been awarded to small local businesses with every contractor working on the scheme obliged to employ local staff and create apprenticeships. This comes at a time when local jobs and the opportunity to work locally through the medium of Welsh are scarce. We're pleased we can offer quality jobs local and development opportunities so that living and working in Gwynedd through the medium of Welsh is a realistic option.

Ffrancon Williams, Chief Executive
Cartrefi Cymunedol Gwynedd

2 comments:

  1. Mae CCG i'w canmol am y gwaith o gynnig cyfleon I ddefnyddio'r Gymraeg, mae angen mwy o gyfleon ar draws Cymru I sicrhau ffyniant y Gymraeg, a gwneud hynny yn rhagweithiol yn hytrach na gadael cryfhau'r Gymraeg I siawns. Mae cymdeithasau tai mewn sefyllfa arbennig mewn cymunedau I ddylanwadu a hyrwyddo'r Gymraeg. Mae CCG yn enghraifft I bob cymdeithas dai ei efelychu. Daliwch ati CCG ac edrychaf ymlaen I weld camau brasach I sicrhau dyfodol yr Iaith yng nghymunedau Gwynedd.

    ReplyDelete

Thanks for your comment!