Wednesday 14 January 2015

Confensiwn Cyfansoddiadol Torfol

Ar gyfer y rhai ohonoch a oedd yng Nghynhadledd Flynyddol CHC ym mis Tachwedd y llynedd, efallai y cofiwch i Matthew Taylor a Lee Waters ill dau ein herio fel sector i roi'r gorau i aros i eraill newid neu wneud pethau a mynd yn ein blaenau a'i wneud ein hunain ..

Daeth y galwad ar amser pan oedd yr addewidion cyfansoddiadol a wnaed i bobl yr Alban yn dilyn y refferendwm yn ysgogi trafodaeth llawer ehangach am y pwerau sydd gennym ac, yn bwysicaf, y pwerau rydym eu heisiau yma yng Nghymru. Ynghyd â'r heriau sy'n ein hwynebu ni fel sector a thenantiaid, ymddangosai y byddid yn colli'r cyfle a ddaw yn sgil yr Etholiad Cyffredinol nesaf pe na wneir y galwadau cywir yn y meysydd hynny nad oedd wedi eu datganoli sy'n cael cymaint o effaith ar ein cymunedau. Felly, oherwydd hyn, penderfynodd CHC ddod yn bartner yng Nghonfensiwn Cyfansoddiadol Torfol y Sefydliad Materion Cymreig.

Mae hon yn drafodaeth am ddyfodol Cymru. Nid yw cyfeiriad teithio'r drafodaeth hon yn rhywbeth pendant a gwahoddwn bobl i ymateb i'r drafft gynllun. Bydd CHC yn cymryd rhan ym mhob agwedd ond byddwn yn benodol yn hwyluso'r drafodaeth am 'Beth sy'n gwneud Cymru yn wlad decach?' Rhagwelwn y bydd rhai rhannau o'r wladwriaeth les yn ffocws allweddol yn y drafodaeth yma. Yn CHC, rydym eisiau trosi'r trafodaethau am y cyfansoddiad, datganoli a phwerau i realaeth darpariaeth. Fel sector, mae gennym ddealltwriaeth fanwl o'r polisïau, prosesau a gweithdrefnau presennol sy'n ymwneud â meysydd allweddol llesiant ac yn hollbwysig yn deall eu heffaith uniongyrchol ar unigolion a chymunedau. Felly, pan ofynnwn 'Sut olwg ydyn ni eisiau ar ein cymunedau?', byddwn hefyd yn gofyn, 'Beth sy'n ein hatal rhag cael hynny?' a 'Beth sydd angen ei newid?'

Felly yn ystod yr wyth wythnos nesaf, gobeithiwn y byddwch yn cymryd rhan ac yn annog eich cydweithwyr, cyfeillion a'ch teulu i ddweud eu barn ac ymuno â'r drafodaeth i lunio Cymru decach.

Dewch yn eich blaen, am beth ydych chi'n aros? ... Caniatâd?!


Sioned Hughes
Cyfarwyddydd Polisi ac Adfywio

No comments:

Post a Comment

Thanks for your comment!